Lleoliad y cyfarfod:
Y Siambr - Y Senedd
Dyddiad y
cyfarfod:
Dydd Mercher,
9 Mehefin 2021
Amser y
cyfarfod: 13.30
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/12308
------
Cynhaliwyd y cyfarfod hwn ar ffurf hybrid, gyda rhai Aelodau yn Siambr y Senedd ac eraill yn ymuno drwy gyswllt fideo.
1 Cwestiynau i Weinidog yr Economi
Dechreuodd yr eitem am 13.30
Gofynnwyd yr 8 cwestiwn cyntaf. Atebwyd cwestiwn 1 gan Ddirprwy Weinidog y Celfyddydau a Chwaraeon, a’r Prif Chwip. Gwahoddodd y Llywydd lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Gweinidog ar ôl cwestiwn 2.
Yn unol â Rheol Sefydlog 12.18, am 14.19 cafodd y cyfarfod ei atal dros dro gan y Llywydd.
2 Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Dechreuodd yr eitem am 14.28
Gofynnwyd yr 8 cwestiwn cyntaf. Atebwyd cwestiwn 1 gan y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol. Atebwyd cwestiynau 4 a 5 gan y Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant. Gwahoddodd y Llywydd lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Gweinidog ar ôl cwestiwn 2.
3 Cwestiynau Amserol
Dechreuodd yr eitem am 15.21
I ofyn i’r Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol:
Laura Anne Jones (Dwyrain De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am honiadau gan chwythwyr chwiban bod plant ag awtistiaeth wedi cael eu cam-drin yng nghartref Tŷ Coryton yng Nghaerdydd?
4 Datganiadau 90 eiliad
Dechreuodd yr eitem am 15.29
Gwnaeth Vikki Howells ddatganiad ar: Taith olaf y trên “pacer”.
Gwnaeth Rhianon Passmore ddatganiad ar: Rhyddhau’r ffilm ‘Dream Horse’
5 Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.2 i roi cyfarwyddiadau i bwyllgor priodol mewn perthynas â pharth perygl nitradau Cymru gyfan
Dechreuodd yr eitem am 15.33
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:
NDM7703 Darren Millar (Gorllewin Clwyd)
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn nodi effaith andwyol parth perygl nitradau Cymru gyfan ar amaethyddiaeth Cymru.
2. Yn unol â Rheol Sefydlog 17.2, yn galw ar bwyllgor perthnasol y Senedd i adolygu Rheoliadau Adnoddau Dŵr (Rheoli Llygredd Amaethyddol) (Cymru) 2021 ar frys a chyflwyno ei argymhellion i'r Senedd.
Rheoliadau Adnoddau Dŵr (Rheoli Llygredd Amaethyddol) (Cymru) 2021
Cyd-gyflwynwyr
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
29 |
0 |
29 |
0 |
Gan fod nifer y pleidleisiau yn gyfartal, defnyddiodd y Dirprwy Lywydd ei bleidlais fwrw i bleidleisio yn erbyn y cynnig, yn unol â Rheol Sefydlog 6.20(ii).
Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio.
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 Lesley Griffiths (Wrecsam)
Dileu pwynt 1 a rhoi yn ei le:
Yn nodi pwysigrwydd hanfodol lleihau allyriadau amaethyddol er mwyn:
a) cryfhau enw da ffermio yng Nghymru;
b) gwarchod pobl a natur yng Nghymru rhag llygredd aer;
c) diogelu afonydd a moroedd Cymru ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol;
d) cyflawni uchelgais sero net Cymru.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
29 |
29 |
0 |
58 |
Derbyniwyd gwelliant 1.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig fel y’i diwygiwyd:
NDM7703 Darren Millar (Gorllewin Clwyd)
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn nodi pwysigrwydd hanfodol lleihau allyriadau amaethyddol er mwyn:
a) cryfhau enw da ffermio yng Nghymru;
b) gwarchod pobl a natur yng Nghymru rhag llygredd aer;
c) diogelu afonydd a moroedd Cymru ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol;
d) cyflawni uchelgais sero net Cymru.
2. Yn unol â Rheol Sefydlog 17.2, yn galw ar bwyllgor perthnasol y Senedd i adolygu Rheoliadau Adnoddau Dŵr (Rheoli Llygredd Amaethyddol) (Cymru) 2021 ar frys a chyflwyno ei argymhellion i'r Senedd.
Rheoliadau Adnoddau Dŵr (Rheoli Llygredd Amaethyddol) (Cymru) 2021
Cyd-gyflwynwyr
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
58 |
0 |
0 |
58 |
Derbyniwyd y cynnig fel y’i diwygiwyd.
Yn unol â Rheol Sefydlog 12.18, am 16.28 cafodd y cyfarfod ei atal dros dro gan y Dirprwy Lywydd.
6 Dadl Plaid Cymru - Pwerau'r Senedd
Dechreuodd yr eitem am 16.41
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:
NDM7701 Sian Gwenllian (Arfon)
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn cytuno bod gan y Chweched Senedd hon fandad i ddatganoli pwerau sylweddol pellach o San Steffan i Gymru.
2. Yn credu bod yn rhaid i'r Senedd gael yr ysgogiadau i wella bywydau ein dinasyddion ac ailadeiladu Cymru wyrddach, decach a mwy llewyrchus ar ôl pandemig COVID-19.
3. Yn cydnabod y bygythiad i bwerau'r Senedd sy'n deillio o agwedd Llywodraeth y DU at ddatganoli, yn enwedig ers Brexit.
4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gychwyn y broses a amlinellir yn Neddf Llywodraeth Cymru 2006 i geisio pwerau i'r Senedd dros faterion a gedwir yn San Steffan ar hyn o bryd, gan gynnwys plismona a chyfiawnder, rheilffyrdd, lles, darlledu, prosiectau ynni, Ystâd y Goron, Deddf Cydnabod Rhywedd 2004 a'r pŵer i'r Senedd alw refferendwm rhwymol ar ddyfodol cyfansoddiadol Cymru.
Deddf Llywodraeth Cymru 2006 (Saesneg yn unig)
Deddf Cydnabod Rhywedd 2004 (Saesneg yn unig)
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
12 |
0 |
46 |
58 |
Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio.
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 Darren Millar (Gorllewin Clwyd)
Dileu popeth a rhoi yn ei le:
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn credu bod canlyniad etholiad diweddar y Senedd yn dangos nad oes mandad ar gyfer newid cyfansoddiadol sylweddol na refferendwm pellach ar bwerau datganoledig.
2. Yn nodi'r cydweithrediad rhwng Llywodraeth Ei Mawrhydi a Llywodraeth Cymru ar fframweithiau cyffredin yn dilyn ymadawiad y DU â'r Undeb Ewropeaidd.
3. Yn croesawu'r cydweithredu rhwng Llywodraeth Ei Mawrhydi a Llywodraeth Cymru yn ystod y pandemig coronafeirws, sy'n cynnwys:
a) darparu cyllid i ddiogelu busnesau, incwm, swyddi, gwasanaethau cyhoeddus, y trydydd sector, y celfyddydau a mwy;
b) defnyddio'r fyddin;
c) caffael a darparu brechlynnau.
4. Yn credu mai'r ffordd orau o wasanaethu dyfodol Cymru yw fel rhan o Deyrnas Unedig gref.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
16 |
0 |
42 |
58 |
Gwrthodwyd gwelliant 1.
Gan fod gwelliant 1 wedi ei dderbyn, cafodd gwelliant 2 ei ddad-ddethol.
Gwelliant 2 Lesley Griffiths (Wrecsam)
Dileu popeth a rhoi yn ei le:
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn cefnogi Llywodraeth Cymru yn ei gwaith parhaus i sicrhau bod plismona a chyfiawnder yn cael eu datganoli yn unol ag argymhelliad y Comisiwn ar Gyfiawnder yng Nghymru.
2. Yn croesawu ymrwymiad Llywodraeth Cymru i sefydlu comisiwn a sgwrs gyda phobl Cymru i ystyried ein dyfodol cyfansoddiadol.
3. Yn nodi cynlluniau Llywodraeth Cymru i gyhoeddi fersiwn ddiwygiedig o ‘Diwygio ein Hundeb’, a gyhoeddwyd am y tro cyntaf yn 2019.
Diwygio ein Hundeb: Cydlywodraethu yn y DU
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
30 |
0 |
28 |
58 |
Derbyniwyd gwelliant 2.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig fel y’i diwygiwyd:
NDM7701 Sian Gwenllian (Arfon)
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn cefnogi Llywodraeth Cymru yn ei gwaith parhaus i sicrhau bod plismona a chyfiawnder yn cael eu datganoli yn unol ag argymhelliad y Comisiwn ar Gyfiawnder yng Nghymru.
2. Yn croesawu ymrwymiad Llywodraeth Cymru i sefydlu comisiwn a sgwrs gyda phobl Cymru i ystyried ein dyfodol cyfansoddiadol.
3. Yn nodi cynlluniau Llywodraeth Cymru i gyhoeddi fersiwn ddiwygiedig o ‘Diwygio ein Hundeb’, a gyhoeddwyd am y tro cyntaf yn 2019.
Diwygio ein Hundeb: Cydlywodraethu yn y DU
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
30 |
0 |
28 |
58 |
Derbyniwyd y cynnig fel y’i diwygiwyd.
7 Cyfnod pleidleisio
Yn unol â Rheol Sefydlog 12.18, am 17.45 cafodd y trafodion eu hatal dros dro i ganiatáu egwyl technegol cyn y Cyfnod Pleidleisio.
Dechreuodd yr eitem am 17.53
8 Dadl Fer
Dechreuodd yr eitem am 18.02
NDM7700 Delyth Jewell (Dwyrain De Cymru)
Effaith y newid yn yr hinsawdd ar iechyd meddwl.
Daeth y cyfarfod i ben am 18.29
Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Senedd am 13.30, Dydd Mawrth, 15 Mehefin 2021